Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (125)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Wasanaethau Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (30 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter (30 munud) |
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardrethi Busnes (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Heb ei Drefnu (30 munud) |
7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid (30 munud) |
8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diddymu'r cyrff sy'n gysylltiedig â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol - gohiriwyd tan 30 Ebrill 2013 (30 munud) |
9. Dadl: Gofal Diwedd Oes (60 munud) NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes; a 2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes. Mae’r ddogfen Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes ar gael drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/end-of-life/?skip=1&lang=cy Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes o safon uchel yng Nghymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael gofal diwedd oes. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael. |
Cyfnod Pleidleisio |
10. Dadl Fer - gohiriwyd ers 20 Mawrth 2013 (30 munud) NDM5208 Ken Skates (De Clwyd): Y tu hwnt i Fae Caerdydd – Rôl newidiol cyfryngau lleol a rhanbarthol ledled Cymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 24 Ebrill 2013